LIVERPOOL WELSH

Home

Societies

Welsh Churches

'Yr Angor'
(Local Paper)

Local Welsh
Characters

Books & Publications

Missionary Witness

Archive
Material

Learn the Language

Cymry Lerpwl
 

 

Click to view

The Welsh in Liverpool by D.Ben Rees

JIM by D.Ben Rees

The life and works of then Rt.Hon.James Griffiths


Byw dan gysgod pandemig – argraffiadau hanesydd llęn

A ninnau yn ystod y misoedd diwethaf hyn wedi byw dan gysgod y pandemig byd-eang gwaethaf ers canrif, byddai’n dda inni ein hatgoffa ein hunain fod sawl haint peryglus wedi taro’r ddynoliaeth yn ystod cwrs hanes. Dros chwe chanrif yn ôl ymledodd y Pla Du gan ladd traean poblogaeth Ewrop o fewn cyfnod o dair blynedd, ac ailymddangosodd yn ysbeidiol wedi’r ymweliad marwol mwyaf niweidiol hwnnw yng nghanol y bedwaredd ganrif ar deg. Yn wir, clywir am achosion o’r Pla Du mewn rhai rhannau o’r byd heddiw. Ddechrau’r haf eleni, er enghraifft, bu achos yng ngogledd China, ond fe’i rheolwyd yn gyflym gan fod modd ei drin â gwrthfiotigau.

Tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, lluniodd y bardd Thomas Evans o Hendreforfudd ger Corwen yr englyn canlynol i goffáu dyfodiad y pla yn y flwyddyn 1349:

Marwolaeth a wnaeth Duw naf – enwedig

           Pan fu’r nodau gyntaf;

    Mil trichant, gwarant a gaf,

    Naw a deugain y dygaf.

Mae dau beth i sylwi arnynt yn yr englyn hwn. Y peth cyntaf yw’r cyfeiriad at Dduw yn achosi’r farwolaeth fawr. Gan nad oedd gan bobl yr wybodaeth feddygol sydd gennym ni i allu esbonio tarddiad ac achos y pla, tueddid i’w esbonio fel cosb gan Dduw am bechodau dynion, fel yn yr Hen Destament. Yr ail beth yw’r cyfeiriad at y ‘nodau’. ‘Haint y nodau’ oedd un o’r enwau a ddefnyddid yn Gymraeg i gyfeirio at y pla biwbonig, am fod ei ôl yn weladwy ar y corff. Un o’i symptomau amlwg oedd chwydd yn y chwarennau lymff o dan y gesail, yng nghesail y forddwyd, neu yn y gwddf.

Yn 1894 y darganfu’r bacteriolegydd o Ffrainc, Alexandre Yersin (1863–1943), mai bacteriwm a achosai’r Pla Du. Ar ei ôl ef y gelwir yr haint yn Yersinia pestis. Mae’n facteriwm hynod heintus a pheryglus sy’n ymosod ar y system imiwnedd trwy arllwys gwenwyn i gelloedd amddiffynnol y corff, sydd fel rheol yn gwarchod rhag unrhyw heintiau niweidiol a marwol. Unwaith y lleddir y rheini, gall y bacteria ymledu’n gyflym. Fel y gwyddys, chwain sy’n byw ar famaliaid sy’n lledaenu’r bacteriwm. Llygod mawr a gludai’r chwain hyn ac a ledaenai’r Pla Du yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Yr hyn sy’n ddiddorol i hanesydd llęn fel fi yw fod gennym gerddi Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed sy’n cyfeirio at effeithiau marwol yr haint. Un o’r cerddi hynny yw’r farwnad a ganodd Llywelyn Fychan i bump o’i blant a fu farw o’r pla. Er bod galar y tad ar eu hôl yn ein cyffwrdd, yr hyn sy’n drawiadol yn y gerdd yw’r disgrifiad a geir o’r lympiau chwyddedig a’r staeniau duon ar gyrff y plant. Dyma dystiolaeth na cheir braidd ei thebyg mewn llenyddiaethau eraill. Defnyddia’r bardd ei ddyfeisgarwch wrth fynd ati i ddelweddu’r chwydd crwn ar y cnawd fel ‘swllt mewn cyswllt cesail’, fel lwmp ar ffurf ‘afal llawn o ofid’, a lwmpyn ac iddo siâp fel pen nionyn. Ond mae un disgrifiad sy’n cynnwys delwedd drawiadol a hynod effeithiol i gyfleu siâp ac ymddangosiad y chwyddi yn y llinell hon: ‘Dimeiau, gemau gwymon’. Y ‘gemau gwymon’ hyn yw’r swigod a geir ar wymon y môr, sef yr hyn a elwir yn Saesneg yn seaweed floats, sy’n cyfleu i’r dim ffurf yr hyn a elwid yn Lladin yn bubo, sef symptom mwyaf gweladwy’r Pla Du.

Yn aml iawn, nid oedd gan ein cyndeidiau ddim amddiffynfa yn erbyn heintiau ond gweddďo ar Dduw yn y gobaith o gael eu harbed, neu os caent eu heintio, gweddďo am gael eu hiacháu. Pan ailymwelodd haint y nodau yn y bymthegfed ganrif canodd y bardd Dafydd Llwyd o Fathafarn gywydd marwnad i’w ferch ei hun a fu farw o’r pla. Er i lawer o bobl fynd i’r eglwys i weddďo drosti am iachâd, cwbl ofer fu’r ymdrech. Yr hyn sy’n drawiadol eto ynghylch y gerdd hon yw fod y bardd yn cynnig inni ddarlun manwl iawn o symptomau’r pla. Trwy gyfrwng delwedd a chymhariaeth llwydda’r bardd hwn hefyd i ddarlunio’r blotiau tywyll ar gnawd y claf, gan alw i gof inc yn staenio papur a chylchoedd fel staen mwyar duon:

Ysgrifen chwarren a’i chwys

Yn lliwio dan ei llewys,

A hefyd i gyd ei gwar,

Dimeiau fel nod mwyar.

Nid cerdd brotest sydd yma, ond marwnad sy’n mynegi realiti colled anorfod. Wyneb yn wyneb â’r pla difaol ni allai’r bardd wneud dim ond derbyn y Drefn. Dyna lwcus yr ydym ni fod gwyrthiau meddygaeth fodern a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yma i ofalu amdanom ac i’n hiacháu.

 

Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth.


Covid 19

Firws angeuol hardd yw’r ‘corona’

fel pęl ping pong yn orchudd o dorcha!

 

Stwffia drwy ffroena’ a llygad llaith

ymlaen ymlaen ar ei bydol daith

 

Ceuwyd yr henoed – fel cwn mewn cwt

cedwch o’r golwg, ymdopiwch yn dwt.

 

O dipyn i beth bydd y wlad yn cau’i lawr

â’r firws fel hyn, beth nawr Prydain Fawr?

 

mwy na’r Eidal, Almaen a hefyd Sbaen

y gwledydd a’u clwydi dan glo a tsiaen?

 

Dim hamdden mwyach na chaeau o sbort

dim socer, na rygbi o unrhyw siort!

 

Mae’r awdurdodau – a bod yn deg

fel ‘c’logod y domen – clochdar neu rheg!

 

Mae taflu arian dychrynllyd i’r gad

(llywodraeth newydd am gadw eu stad!)

 

Am faint pery y fadwch a’r stomp

Pa hyd bydd y firws yn dawnsio’i romp?

 

Ond ‘rhoswch funudyn – mae eto dro

i’r rhyfel weladwy anweladwy’r fro…

 

Capeli…ysgolion i gyd yn cau’i lawr –

rhencian dannedd y brodyr o gornel Set Fawr

 

Dim arholiadau Lefel A na ‘G S E’

‘ond a’i mater bywyd yw ennill degree?”

 

Dim allor i dderbyn sacrament hedd

dwylo’n ddisinffectant o’r byd i’r bedd.

Ond, meddyliais o ddifri’r paderau fu

am Ddiwygiad arall i lenwi y Ty!

 

Onid rhan yw hyn o efengyl cariad

a chyfle’i ail gychwyn rol Atgyfodiad?

 

-rhoi heibio ein hunanoldebau bas

llenwi ein byw efo trugaredd a gras?

 

Mae un peth yn sicr ar derfyn y sioe

fydd fory ein byd ddim tebyg id doe!

 

Byw yw yr Arglwydd – er maint y trwbwl

y byd sydd o’i le gyda’i safonau dwbwl.

 

Mae digon ar gyfer angen bob un

ond fod pobol yn farus yn stompio’r llun…

 

Pam beio Duw – a rhoi arno pob bai

heb weled o’n grym ein traed o glai?

 

                                                   Norman Closs

                                       Carmel, ger Treffynnon.

 


 

 FFRINDIAU

Tra’n eistedd wrth y tan un hwyr
Yn edrych ar y fflamau,
Meddyliais peth mor braf i ddyn
Fyddai byd yn llawn o ffrindiau;
Afiechyd ddaw a’i gystudd blin,
A phawb yn gwneud ei orau,
Ond diolch wnawn ag uchel lef
Fod gennym lu o ffrindiau.

Pan fyddo beichiau byd yn drwm
Yn pwyso ar ein sgwyddau,
Rhyw sibrwd pob cyfrinach fach
A wnawn wrth gwrdd a’n ffrindiau;
Mae’n werth ail fyw profiadau fyrdd
A son am yr hen ddyddiau,
Bydd gwen a sgwrs a hwyl i mi
Fel gwin yng nghwmni ffrindiau.

A phan ddaw gelyn yn ei dro
I bwyso ar yr argae,
Diolchwn iti Arglwydd da
Fod gennym lu o ffrindiau;
Os teimlo ‘rwyt yr hoffet gael
Rhyw ffrind i faddau beiau,
Rho did y hun i Iesu Grist
Efe yw Brenin ffrindiau.

Dewi Bowen
 


 

Cyflwyno Aled Lewis Evans  gan Dr Pat Williams

 

Gŵr amryddawn iawn yw Aled Lewis Evans; athro ysgol a thiwtor dosbarthiadau oedolion, cynhyrchydd a chyflwynydd radio, beirniad eisteddfodol ac erbyn hyn yn weinidog yr efengyl llawn amser. Eto i gyd ynghanol y prysurdeb hwn mae wedi cyhoeddi nifer helaeth o gyfrolau, yn rhyddiaith a barddoniaeth, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1991 am gyfrol o gerddi ar gyfer pobl ifanc. Dywedodd y beirniad, Gerwyn Williams, mai hon oedd cystadleuaeth bwysicaf yr Eisteddfod am ei bod yn ymwneud â’r dyfodol. A dyna yn anad dim yw cryfder gwaith y bardd hwn. Mae’n deall pobl ifanc ac yn uniaethu â’u problemau, yn eu cofnodi’n syml ac yn dreiddgar, ond byth yn moesoli. Mae cerdd gyntaf y gyfrol fuddugol hon, ‘Sglefrfyrddio’ yn ymddangos eto yn ei ail gyfrol ac dyna hefyd ddewisodd yn deitl arni. Ar lefel arwynebol disgrifiad o un o bleserau’r ifainc yw sglefrfyrddio ond mewn gwirionedd mae’n trafod thema ehangach, wrth i’r athletydd ifanc edrych yn ôl ac ymlaen ar ei fywyd.

Yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd Sglefrfyrddio, ymddangosodd ei nofel gyntaf hunangofiannol, sef, Rhwng Dau Lanw Medi sy’n croniclo mewn ffordd sensitif hanes llanc ifanc ar ddiwedd chwedegau’r ugeinfed ganrif yn y Bermo, tref y mae’n gyfarwydd iawn â hi, gan iddo fyw yno ym more’i oes. Dengys ei ddawn i dreiddio i ddyfnder personoliaeth pobl yn gyffredinol yn ei nofel ôl-fodernaidd Y Caffi, sydd wedi ei lleoli yn Wrecsam. Mae’r cymeriadau yn siarad yn y dafodiaith leol ac mae cryn dipyn o hiwmor wrth iddynt fynegi barn ar gymdeithas yn gyffredinol a datgelu eu gobeithion. 

Mae “lle” yn bwysig i’r llenor hwn, fel y gwelir o’i lyfr teithio, Llwybrau Llonyddwch gyda’r is-deitl sydd yn crynhoi ei gynnwys yn berffaith: Teithiau cerdded Myfyrgar ar Hyd a Lled Cymru. Ond nid llyfr teithio cyffredin mo hwn. Mae naws llenyddol arno. Yn ogystal â chyfarwyddiadau ymarferol, gyda 72 o lunau a 15 o fapiau, mae’r awdur yn cynnwys gwybodaeth am hanes, cymeriadau, ysbrydolrwydd ac awyrgylch y lleodd sydd yn golygu cymaint iddo yn bersonol. Ond nid yw’r lleodd sydd wedi creu argraff arno yn gyfyngedig i Gymru; mewn nifer o’i gerddi, mae’n cyfeirio at brofiadau a gafodd ar gyfandiroedd Ewrop ac America, yn ogystal ag yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Lerpwl, sy’n agos at ei galon.

Peth arall sy’n bwysig iddo yw cyfnodau’r flwyddyn. Iddo ef mae dyddiau yn fwy na ffordd o fesur amser, ond yn llawn arwyddocâd, fel y gwelir yn ei lyfr Adlais, sef deunydd defosiynol ar gyfer y flwyddyn eglwysig. Atgyfnerthir y ddamcaniaeth am ei ymwybyddiaeth o arwyddocâd amser gan ei lyfr o farddoniaeth Saesneg, Someone else in the audience, lle y mae’n trefnu’r cynnwys yn ôl tymhorau’r flwyddyn. Mae patrwm y misoedd hefyd yn nodweddu ei ryddiaith greadigol newydd sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef Tre Terfyn sy’n dychwelyd i ardal y gororau.     

Fel athro ysgol mae ganddo adnabyddiaeth dreiddgar o’i fyfyrwyr. Gall gydymdeimlo â phlant nad oes ganddyn nhw yr un diddordeb yn y ‘pethe’ ag yntau. Mynegir hyn mewn ffordd sy’n dangos ei synnwyr digrifwch, fel yn ei gerdd ‘Hen Wlad dy Dad’, lle mae’r athro’n ymdrechu i ddysgu’r anthem genedlaethol i’w fyfyrwyr anfoddol. Mae’r iaith a ddefnyddir yn gyfoes ac yn naturiol ac nid yw’n ofni britho ei waith gydag ymadroddion Saesneg, fel yn y gerdd ‘Borin’:

Ma’ cerddi’n bleedin’ boring’! / Be’ ’sgen rhain i wneud efo bywyd?

ac eto yn ‘Over the Llestri’, lle mae’n dangos nad yw dysgu termau technegol yn Gymraeg ddim o angenrheidrwydd yn cynhyrchu siaradwyr rhugl.

Yn ogystal â phroblemau pobl ifanc, ceir ystod eang o themâu yng ngwaith Aled Lewis Evans: cadwriaeth iaith, materoliaeth yr oes bresennol a’r dirwyiad mewn bywyd crefyddol ond efallai y rhai sydd yn creu yr argraff ddofnaf yw’r cerddi sy’n ymwneud â marwolaeth. Mewn iaith blaen, ddi-rodres, hawdd ei deall mae’n cyfleu’r ing a demlir wrth golli anwylyd, gydag ataliaeth ddisgybledig sy’n osgoi sentimentaleiddiwch. Gwaith Cristion o’r iawn ryw.

 


 

 
A brief history of the Liverpool Welsh

Who are they ?’ What have they done ?
 
Liverpool Welsh have been an integral part of the Liverpool scene since the heyday of the slave trade and the building of the docks in the last decade of the eighteenth century. Shipping became an occupation  that attracted men from Anglesey and Caernarvonshire and when the clever welsh poet and  Anglican divine Goronwy Owen  settled at St Mary’s Church, Walton in 1755 he loved coming to the waterfront to converse in welsh with the sailors from his native hearth of Anglesey. These men and women of Wales came in their thousands between 1760 and 1860 and in that period at least 16 Welsh speaking chapels and churches were built. By 1900 Liverpool had around 90 Welsh Chapels, Churches and mission halls to cater for the spiritual and cultural needs. By 1815, within Liverpool there was a Welsh town. The  Little Wales plaque to remember their coming  is on the right of Pall Mall north of Leeds Street junction and I usually take Welsh visitors to see it since it was placed there in the summer of 2007.

Though young and usually poor the immigrants were  men and women who were determined to make a better world for themselves, though the presence of the ‘press gangs’ in the town was to say the least an hindrance. Many of them were staunch young Calvinistic Methodists escaping from the persecution of the Anglican establishment, the local vicar and the squire in particular. They found comfort in an alien land as exiles.

Most of the exiles were involved in shipping and the building industries.  Some of them became  architects and hundreds of them established building firms . They were very involved in the growth of Liverpool from a small fishing village into a huge port and a cosmopolitan city by 1880. The Welsh, through these builders, such as Owen Elias and David Hughes, played their part in the extension of the city to Kirkdale, Anfield, Walton, Everton, St Domingo, Islington and Kensington. Townships such as Everton and Anfield became welsh in speech as Sir James Picton  informs us, Welsh in culture  and  prominent in the commercial and shopping world. The streets were often given Welsh names by the builders and not only in Toxteth, but all over the city. Young men  who arrived in Liverpool were given support by the Elders of the welsh chapels many of them large builders. Within two decades many of these  immigrants would have succeeded beyond all expectations. Their heritage is still around us, and a Welsh trail is very much needed to indicate where the welsh stores and companies were located.

 Medicine also attracted able young men as doctors and young women as nurses in the Liverpool Hospitals. The Anglesey bonesetter family of Evan Thomas were responsible, through him and his eldest son Hugh Owen Thomas and his wife’s nephew, Sir Robert Jones, for the growth of Liverpool as a centre for orthopaedic medicine. The  outstanding Welsh medical giants include Dr Robert Gee, Dr Thelwall Thomas, Professor Owen H.Williams,  Dr Goronwy Thomas, Dr Howell  Hughes  and Will Lloyd-Jones. Remarkable men of medicine from Liverpool served the Foreign Mission of the Presbyterian church of Wales in North East-India, in particular Dr Gordon Roberts and Dr R. Arthur Hughes. It was the Liverpool Welsh community  which   inaugurated this specific witness from 1840 till 1970.The University of Liverpool which educated these medical  parishioners attracted young students to study in Arts, Law and Science. Many of the notable men of letters in Welsh history taught at the different departments.  The Celtic department was well served by the poet J.Glyn Davies, a native of Toxteth, followed by  Idris Foster who later left for Jesus College, Oxford, Melville Richards, D Simon Evans and Dr Nicholas Williams. In History Professor W. Garmom Jones had a great deal of influence  while in Law Professor D Seaborne  Davies  was gifted  as a  speaker. The University of Liverpool as well as the John Moores University and the educational  provision in the schools of the city have been well served by the Welsh teachers

 Music is another sphere of culture  where the Welsh have been influential.  The Liverpool Welsh Choral Union has been honoured for its long and distinguished contribution by being given the Freedom of the City in 2013.  Welsh publishing has been  well documented and Modern Welsh Publications is still in existence and has its own website. The  eisteddfodic tradition  has a long and distinguished history from 1840 till 1990, and Welsh poets of distinction have laboured in Liverpool. Welsh hymns and Welsh tunes have been written and composed in the city and are still sung Sunday after Sunday.

 A great deal has been written on the Liverpool Welsh in the last 30 years and the Merseyside Welsh Heritage society is an important link in preserving for posterity the  rich and unique cultural life. The monthly newspaper called Angor is worth ordering for Ł10-50 a year, for it underlines the events that have happened and will happen among the Welsh communities.

Prepared for the Liverpool Welsh website on 14-2-2014 by Professor Dr D.Ben Rees.