D. Ben Rees (gol.), Meistri'r Awen (Cyhoeddiadau
Modern Cymreig, 2022). 226 tt. £15.
Wele gyfrol arall hynod hardd a phwysig a gyhoeddwyd gan gwmni
blaengar Cyhoeddiadau Modern Cymreig, Lerpwl. A'r rheswm pennaf
dros baratoi'r astudiaeth hon oedd ceisio clodfori cyfraniad nifer
o lenorion pwysig yn ein hanes oedd yn dyddio o gyfnod arbennig yn
ein hanes, ac felly mewn perygl o fynd braidd yn angof erbyn hyn.
Ar un olwg mae'n dilyn patrwm y gyfrol Dyrnaid o Awduron Cyfoes,
astudiaeth a olygwyd eto gan y Dr D. Ben Rees bron i hanner canrif
yn ôl ym 1974. Rhoddwyd croeso brwdfrydig iddi ar y pryd, mae'n
dal yn ddefnyddiol i efrydwyr ein llên hyd at heddiw, ac yn sicr
ddigon rhoddir yr un croeso cynnes i'r gyfrol fach hylaw hon.
Llwyddodd y golygydd egnïol, yn ôl ei arfer, i ddenu cyfraniadau
gwerthfawr, o safon uchel gan chwech o ysgolheigion sydd wedi
trwytho eu hunain yng ngwaith y llenorion y disgrifir eu gwaith
yma. Ac mae pob un o'r llenorion yn dyddio o gyfnod arbennig yn
ein hanes. Mae'r to hŷn yn dal yn ymwybodol o'u cyfraniad, ond nid
felly y to iau – ar wahân efallai i gyhoeddiadau Caradog Pritchard
a'i nofel enwog Un Nos Ola Leuad.
I
gychwyn, cawn ddarllen ysgrif feistrolgar gan Dr R. Alun Evans ar
weithiau'r 'cawr' Dr Iorwerth C. Peate (1901-82), ' y dyn
digymrodedd, anoddefgar oedd hefyd yn llawn tynerwch a hynawsedd',
chwedl yntau. Yn hollol ar wahân i'w gyfraniad aruthrol fel
curadur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan nid nepell o
Gaerdydd, rhwng ei sefydlu ym 1948 hyd at ei ymddeoliad oddi yno
yn llawn anrhydeddau a pharch y genedl, fe brofodd y Dr Peate ei
hun yn ysgolhaig cadarn a chynhyrchiol mewn nifer o feysydd
gwahanol, yn llenor a gyhoeddodd yn bur gyson ac yn fardd medrus a
chrefftus.
Yna mae'r Dr Eirian Jones yn rhoi ei sylw i waith B. T. Hopkins,
Blaenpennal, y bardd cefn gwlad nodedig a hanai o gefn gwlad sir
Aberteifi a ddaeth yn feistr digymar efallai ar ffurf y delyneg.
Ceir cyfle gwych yma i werthfawrogi nifer fawr o'i gyfraniadau, ac
yn eu plith ei gywydd enwocaf oll sef 'Rhos Helyg', a darllen am
eu cefndir, ynghyd â hanes personol y bardd a'r dylanwadau a fu
arno. Gŵr ei filltir sgwâr ydoedd yn ddios, ffermwr cefn gwlad a
phregethwr lleyg tra phoblogaidd.
Bardd arall o bwys oedd John Evans (sef Siôn Ifan), brodor o
Ddyffryn Ardudwy, ac ef sydd yn derbyn sylw ei ŵyr yma, sef Aled
Lewis Evans. Daw llawer iawn o wybodaeth newydd am y cawr o fardd
hwn i'r golwg o fewn yr ysgrif hon, a chroniclir ei fywyd yn bur
fanwl. Sonnir am ei gampau cyson mewn eisteddfodau lleol a
arweiniodd at gael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Cynan ym
Mhrifwyl Aberystwyth, Awst 1952. O fewn dwy flynedd gwta fe'i
cadeiriwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954. Ar ôl
hynny, canolbwyntiodd ar lunio toreth o benillion ysgafn a
chymdeithasol a nifer o englynion coffa fel arfer i bobl Ardudwy.
A da dros ben yw cael ein hatgoffa yma am ei gyfraniadau pwysig
dros nifer fawr o flynyddoedd.
Y
golygydd y Dr D. Ben Rees sydd wedi dewis y nofelydd a'r bardd
Caradog Prichard (1904-80), 'y llenor pennaf o blith yr alltudion
Cymraeg', fel testun ei ymchwiliadau manwl, yn aml yn seiliedig ar
yr archif helaeth o'i bapurau sydd ym meddiant y Llyfrgell
Genedlaethol, gan gynnwys llawer o ohebiaeth deuluol. Hynod ddifyr
yw'r manylion am ei yrfa fel newyddiadurwr a'i gyfeillgarwch gyda
nifer o gewri eraill fel Cynan, Prosser Rhys a John Eilian.
Yna mae Norman Clos Parry yn trafod bywyd a gwaith bardd arall o
bwys sef Einion Evans (1926-2009), yr unig brifardd mewn
gwirionedd a hanai o sir y Fflint ac awdur yr hunangofiant o bwys
sef Tri Chwarter Coliar (1991). A dadansoddir ei gerddi a'i
gyhoeddiadau yn bur ofalus yma.
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw thema'r cyfraniad olaf at y
casgliad gan y Dr Pat Williams, Lerpwl. A rhoddir sylw yma i'w
gyhoeddiadau niferus – dros 430 ohonynt, yn cynnwys erthyglau
amrywiol eu naws, yn feirniadaethau, yn adolygiadau craff ac yn
deyrngedau trwyadl. A chyfeirir at Bedwyr yma fel 'ditectif
geiriau' oedd yn fythol barod i deithio ledled Cymru fach i
ddarlithio ac annerch cynulleidfaoedd amrywiol. Ei fethiant i
ddweud 'Na' a gyfrannodd yn drist iawn at ei farwolaeth gynamserol
yn 58 mlwydd oed.
Nid y lleiaf o gryfderau'r gyfrol hon yw'r bywgraffiadau cryno a
geir yma o'r cyfranwyr dysgedig oll, a'r llyfryddiaeth o
gyhoeddiadau pwysicaf y chwe awdur sydd yn cael eu trafod yma. A
brithir y llyfr drwyddi draw gyda nifer fawr iawn o ffotograffau
hardd a phwysig.
J. Graham Jones
Cofiant arloesol a theilwng i un o gewri gwleidyddol yr
ugeinfed ganrif yng Nghymru
Adolygiad Dr J. Graham Jones o D. Ben Rees, Cymro i'r Carn:
Cofiant Gwilym Prys-Davies. Gwasg y Bwthyn. £12.95 (clawr
meddal).
Pleser o'r mwyaf yw cael croesawu o'r diwedd cofiant sylweddol a
chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol mwyaf nodedig yr
ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'n astudiaeth hollbwysig. Roedd yr
awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda am nifer fawr o flynyddoedd ac
yn gyfaill mynwesol iddo am ddegawdau ar eu hyd, dros hanner
canrif yn wir. Y mae'n gwerthfawrogi ei rinweddau, ei gryfderau
a'i gyfraniadau mewn sawl cyfeiriad gwahanol.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn y flwyddyn 2017, daeth
archif bwysig o'i bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, a Ben Rees
oedd un o'r ymchwilwyr cyntaf i wneud defnydd helaeth ohonynt ar
gyfer y llyfr hwn. Mae'r archif yn cynnwys yn arbennig gohebiaeth
anghyffredin o ddadlennol a diddorol. Mae'r cofiant hefyd yn
seiliedig ar waith ymchwil manwl mewn nifer fawr o archifau pwysig
eraill sydd yn berthnasol. (Gweler y rhestr helaeth ohonynt ar
dud. 313 yn y gyfrol.)
Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a Cledwyn
Hughes, sef y gwleidyddion y mae'r Dr D. Ben Rees wedi llunio
cofiannau sylweddol, uchel eu parch iddynt yn barod (gan gynnwys
cofiant i Griffiths yn y Saesneg yn ogystal), nid gwleidydd
proffesiynol, cyhoeddus yn yr un modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies,
ond un a lafuriai yn aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar eraill a
chyflawni gwyrthiau yn dawel bach dros y genedl a garai a thros yr
iaith Gymraeg. Gan ei fod yn ŵr rhyfeddol o swil a diymhongar wrth
natur, ac yn hoffi byw ei fywyd yn yr encilion, nid pawb a
werthfawrogai ei gyfraniad dros y blynyddoedd.
Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn bennaf fel yr
ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn isetholiad nodedig sir
Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966 pan gipiwyd y sedd ymylol honno
gan neb llai na'r Dr Gwynfor Evans, llywydd Plaid Genedlaethol
Cymru ers 1945. Disgrifir yr ornest arbennig honno o fewn pennod 7
yn y cofiant (tt. 108-25) – sef 'isetholiad pwysicaf yr ugeinfed
ganrif' ym marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym Prys-Davies siom
aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth sir
Feirionydd. (Gweler pennod 6 yma.)
Ond mae llawer iawn mwy i drafod wrth gwrs. Fel y gwelwn wrth
ddarllen y llyfr, gwnaeth Gwilym waith arloesol i hybu'r defnydd
o'r iaith Gymraeg yn y llysoedd yn ystod y 1960au. Roedd hefyd yn
un o'r selogion a frwydrodd yn amyneddgar i sefydlu S4C fel sianel
ar gyfer darlledu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ym 1982. Ac roedd
ei gyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio Deddfau'r Iaith Gymraeg
1967 ac eto 1993.
Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei gefnogaeth
i hybu datganoli yng Nghymru o'r 1960au ymlaen, gweithredodd fel 'cynghorydd
arbennig' i John Morris AS pan roedd yntau yn Ysgrifennydd Gwladol
dros Gymru yn y 1970au, roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol o
Fwrdd Ysbytai Cymru am flynyddoedd ar eu hyd, a thaflodd ei hun i
mewn i fywyd Tŷ'r Arglwyddi gydag ymroddiad bywiog a brwdfrydedd
anghyffredin. Enillodd barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn. A
phriodol iawn yw'r ffaith i Ben Rees gyflawni'r astudiaeth hon i'r
Arglwydd John Morris.
Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli'n llwyr yr elfennau hynny a
ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a chymeriad ei wrthrych. Yn eu
plith mae ei gefndir teuluol yn Llanegryn, sir Feirionydd, ei
ddyddiau coleg yn Aberystwyth, ei waith o fewn Mudiad
Gweriniaethol Cymru, a'i berthynas agos a phwysig gyda Goronwy O.
Roberts AS a Huw T. Edwards. Ac mae nifer fawr o wleidyddion
Llafur eraill yr ugeinfed ganrif yng Nghymru hefyd yn cael eu lle
o fewn y stori ryfeddol hon.
Llunnir y cyfan o'r testun o glawr i glawr mewn Cymraeg graenus a
darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur yn wresog ar gyhoeddi
campwaith pwysig arall eto a fydd yn sicr yn derbyn croeso cynnes
gan nifer fawr o ddarllenwyr gwerthfawrogol ein cenedl.
Cofiant arloesol a theilwng i un o gewri gwleidyddol yr
ugeinfed ganrif yng Nghymru
Adolygiad
Dr J. Graham Jones o D. Ben Rees, Cymro i'r Carn:
Cofiant Gwilym Prys-Davies. Gwasg y Bwthyn. £12.95 (clawr
meddal).
Pleser o'r mwyaf yw cael croesawu o'r diwedd cofiant
sylweddol a chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol
mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'n
astudiaeth hollbwysig. Roedd yr awdur yn adnabod ei
wrthrych yn dda am nifer fawr o flynyddoedd ac yn
gyfaill mynwesol iddo am ddegawdau ar eu hyd, dros
hanner canrif yn wir. Y mae'n gwerthfawrogi ei rinweddau,
ei gryfderau a'i gyfraniadau mewn sawl cyfeiriad
gwahanol.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn y flwyddyn
2017, daeth archif bwysig o'i bapurau i'r Llyfrgell
Genedlaethol, a Ben Rees oedd un o'r ymchwilwyr cyntaf i
wneud defnydd helaeth ohonynt ar gyfer y llyfr hwn.
Mae'r archif yn cynnwys yn arbennig gohebiaeth
anghyffredin o ddadlennol a diddorol. Mae'r cofiant
hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil manwl mewn nifer
fawr o archifau pwysig eraill sydd yn berthnasol. (Gweler
y rhestr helaeth ohonynt ar dud. 313 yn y gyfrol.)
Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a
Cledwyn Hughes, sef y gwleidyddion y mae'r Dr D. Ben
Rees wedi llunio cofiannau sylweddol, uchel eu parch
iddynt yn barod (gan gynnwys cofiant i Griffiths yn y
Saesneg yn ogystal), nid gwleidydd proffesiynol,
cyhoeddus yn yr un modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies,
ond un a lafuriai yn aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar
eraill a chyflawni gwyrthiau yn dawel bach dros y genedl
a garai a thros yr iaith Gymraeg. Gan ei fod yn ŵr
rhyfeddol o swil a diymhongar wrth natur, ac yn hoffi
byw ei fywyd yn yr encilion, nid pawb a werthfawrogai ei
gyfraniad dros y blynyddoedd.
Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn
bennaf fel yr ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn
isetholiad nodedig sir Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966
pan gipiwyd y sedd ymylol honno gan neb llai na'r Dr
Gwynfor Evans, llywydd Plaid Genedlaethol Cymru ers
1945. Disgrifir yr ornest arbennig honno o fewn pennod 7
yn y cofiant (tt. 108-25) – sef 'isetholiad pwysicaf yr
ugeinfed ganrif' ym marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym
Prys-Davies siom aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd
ar gyfer etholaeth sir Feirionydd. (Gweler pennod 6 yma.)
Ond mae llawer iawn mwy i drafod wrth gwrs. Fel y
gwelwn wrth ddarllen y llyfr, gwnaeth Gwilym waith
arloesol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y
llysoedd yn ystod y 1960au. Roedd hefyd yn un o'r
selogion a frwydrodd yn amyneddgar i sefydlu S4C fel
sianel ar gyfer darlledu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg
ym 1982. Ac roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio
Deddfau'r Iaith Gymraeg 1967 ac eto 1993.
Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei
gefnogaeth i hybu datganoli yng Nghymru o'r 1960au
ymlaen, gweithredodd fel 'cynghorydd arbennig' i John
Morris AS pan roedd yntau yn Ysgrifennydd Gwladol dros
Gymru yn y 1970au, roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol
o Fwrdd Ysbytai Cymru am flynyddoedd ar eu hyd, a
thaflodd ei hun i mewn i fywyd Tŷ'r Arglwyddi gydag
ymroddiad bywiog a brwdfrydedd anghyffredin. Enillodd
barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn. A phriodol iawn
yw'r ffaith i Ben Rees gyflawni'r astudiaeth hon i'r
Arglwydd John Morris.
Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli'n llwyr yr
elfennau hynny a ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a
chymeriad ei wrthrych. Yn eu plith mae ei gefndir
teuluol yn Llanegryn, sir Feirionydd, ei ddyddiau coleg
yn Aberystwyth, ei waith o fewn Mudiad Gweriniaethol
Cymru, a'i berthynas agos a phwysig gyda Goronwy O.
Roberts AS a Huw T. Edwards. Ac mae nifer fawr o
wleidyddion Llafur eraill yr ugeinfed ganrif yng Nghymru
hefyd yn cael eu lle o fewn y stori ryfeddol hon.
lunnir y cyfan o'r testun o glawr i glawr mewn Cymraeg
graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur yn
wresog ar gyhoeddi campwaith pwysig arall eto a fydd yn
sicr yn derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o
ddarllenwyr gwerthfawrogol ein cenedl.
|
D. Ben Rees (gol.), Meistri'r Awen
(Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2022). 226 tt. £15.
Wele gyfrol arall hynod hardd a phwysig a gyhoeddwyd gan
gwmni blaengar Cyhoeddiadau Modern Cymreig, Lerpwl. A'r
rheswm pennaf dros baratoi'r astudiaeth hon oedd ceisio
clodfori cyfraniad nifer o lenorion pwysig yn ein hanes
oedd yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes, ac felly
mewn perygl o fynd braidd yn angof erbyn hyn. Ar un olwg
mae'n dilyn patrwm y gyfrol Dyrnaid o Awduron Cyfoes,
astudiaeth a olygwyd eto gan y Dr D. Ben Rees bron i
hanner canrif yn ôl ym 1974. Rhoddwyd croeso brwdfrydig
iddi ar y pryd, mae'n dal yn ddefnyddiol i efrydwyr ein
llên hyd at heddiw, ac yn sicr ddigon rhoddir yr un
croeso cynnes i'r gyfrol fach hylaw hon.
Llwyddodd y golygydd egnïol, yn ôl ei arfer, i ddenu
cyfraniadau gwerthfawr, o safon uchel gan chwech o
ysgolheigion sydd wedi trwytho eu hunain yng ngwaith y
llenorion y disgrifir eu gwaith yma. Ac mae pob un o'r
llenorion yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes.
Mae'r to hŷn yn dal yn ymwybodol o'u cyfraniad, ond nid
felly y to iau – ar wahân efallai i gyhoeddiadau Caradog
Pritchard a'i nofel enwog Un Nos Ola Leuad.
I gychwyn, cawn ddarllen ysgrif feistrolgar gan Dr R.
Alun Evans ar weithiau'r 'cawr' Dr Iorwerth C. Peate
(1901-82), ' y dyn digymrodedd, anoddefgar oedd hefyd yn
llawn tynerwch a hynawsedd', chwedl yntau. Yn hollol ar
wahân i'w gyfraniad aruthrol fel curadur cyntaf
Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan nid nepell o
Gaerdydd, rhwng ei sefydlu ym 1948 hyd at ei ymddeoliad
oddi yno yn llawn anrhydeddau a pharch y genedl, fe
brofodd y Dr Peate ei hun yn ysgolhaig cadarn a
chynhyrchiol mewn nifer o feysydd gwahanol, yn llenor a
gyhoeddodd yn bur gyson ac yn fardd medrus a chrefftus.
Yna mae'r Dr Eirian Jones yn rhoi ei sylw i waith B. T.
Hopkins, Blaenpennal, y bardd cefn gwlad nodedig a hanai
o gefn gwlad sir Aberteifi a ddaeth yn feistr digymar
efallai ar ffurf y delyneg. Ceir cyfle gwych yma i
werthfawrogi nifer fawr o'i gyfraniadau, ac yn eu plith
ei gywydd enwocaf oll sef 'Rhos Helyg', a darllen am eu
cefndir, ynghyd â hanes personol y bardd a'r dylanwadau
a fu arno. Gŵr ei filltir sgwâr ydoedd yn ddios, ffermwr
cefn gwlad a phregethwr lleyg tra phoblogaidd.
Bardd arall o bwys oedd John Evans (sef Siôn Ifan),
brodor o Ddyffryn Ardudwy, ac ef sydd yn derbyn sylw ei
ŵyr yma, sef Aled Lewis Evans. Daw llawer iawn o
wybodaeth newydd am y cawr o fardd hwn i'r golwg o fewn
yr ysgrif hon, a chroniclir ei fywyd yn bur fanwl.
Sonnir am ei gampau cyson mewn eisteddfodau lleol a
arweiniodd at gael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Cynan
ym Mhrifwyl Aberystwyth, Awst 1952. O fewn dwy flynedd
gwta fe'i cadeiriwyd yn Eisteddfod Genedlaethol
Ystradgynlais, 1954. Ar ôl hynny, canolbwyntiodd ar
lunio toreth o benillion ysgafn a chymdeithasol a nifer
o englynion coffa fel arfer i bobl Ardudwy. A da dros
ben yw cael ein hatgoffa yma am ei gyfraniadau pwysig
dros nifer fawr o flynyddoedd.
Y golygydd y Dr D. Ben Rees sydd wedi dewis y nofelydd
a'r bardd Caradog Prichard (1904-80), 'y llenor pennaf o
blith yr alltudion Cymraeg', fel testun ei ymchwiliadau
manwl, yn aml yn seiliedig ar yr archif helaeth o'i
bapurau sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, gan
gynnwys llawer o ohebiaeth deuluol. Hynod ddifyr yw'r
manylion am ei yrfa fel newyddiadurwr a'i gyfeillgarwch
gyda nifer o gewri eraill fel Cynan, Prosser Rhys a John
Eilian.
Yna mae Norman Clos Parry yn trafod bywyd a gwaith
bardd arall o bwys sef Einion Evans (1926-2009), yr unig
brifardd mewn gwirionedd a hanai o sir y Fflint ac awdur
yr hunangofiant o bwys sef Tri Chwarter Coliar
(1991). A dadansoddir ei gerddi a'i gyhoeddiadau yn bur
ofalus yma.
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw thema'r cyfraniad olaf
at y casgliad gan y Dr Pat Williams, Lerpwl. A rhoddir
sylw yma i'w gyhoeddiadau niferus – dros 430 ohonynt, yn
cynnwys erthyglau amrywiol eu naws, yn feirniadaethau,
yn adolygiadau craff ac yn deyrngedau trwyadl. A
chyfeirir at Bedwyr yma fel 'ditectif geiriau' oedd yn
fythol barod i deithio ledled Cymru fach i ddarlithio ac
annerch cynulleidfaoedd amrywiol. Ei fethiant i ddweud
'Na' a gyfrannodd yn drist iawn at ei farwolaeth
gynamserol yn 58 mlwydd oed.
Nid y lleiaf o gryfderau'r gyfrol hon yw'r
bywgraffiadau cryno a geir yma o'r cyfranwyr dysgedig
oll, a'r llyfryddiaeth o gyhoeddiadau pwysicaf y chwe
awdur sydd yn cael eu trafod yma. A brithir y llyfr
drwyddi draw gyda nifer fawr iawn o ffotograffau hardd a
phwysig.
J. Graham Jones
|
His ode, "Yr Arwr" with English translation
click
here
D.
Ben Rees (gol.), Hanes Gŵyl Hedd Wyn, Bardd-Fugail y
Rhyfel Mawr. Gwasg y Lolfa, 2018. 95 tt. £6.99.
Wele gyfrol fach sydd yn fwrlwm o ddeunydd eithriadol o
ddifyr a phwysig yn hanesyddol a gyhoeddwyd yn sgil cynnal
Gŵyl y Gadair Ddu o fewn Parc Penbedw yn ystod mis Medi 2017
– achlysur uchelgeisiol a llwyddiannus dros ben a chlod mawr
i'r rhai a fu'n ei threfnu'n fanwl dros fisoedd lawer, gan
amlygu ymroddiad ac amynedd enfawr, chwarae teg iddynt oll.
Cyfrol yw hon i goffau neb llai na Hedd Wyn, sef Ellis
Humphrey Evans, brodor o ardal Trawsfynydd, bugail lleol
adnabyddus, a'r milwr a gipiodd y gadair yn Eisteddfod
Genedlaethol Penbedw, Medi 1917, ond erbyn diwrnod cynnal y
seremoni roedd yr enillydd wedi ei ladd yn ystod brwydr
enwog Pilkem Ridge yn y Rhyfel Byd Cyntaf, hynny ar y
diwrnod olaf o fis Gorffennaf – achlysur ingol o boenus yn
ein hanes a'n hanesyddiaeth fel cenedl ac un sydd yn bendant
yn werth ei goffau yn ein hoes ninnau. Fel rhan o'r ŵyl
uchelgeisiol, arloesol hon trefnwyd nifer o ddarlithoedd
cyhoeddus, sawl cyngerdd a chymanfa ganu llawn hwyl ac egni.
Yn ogystal cafodd nifer o feirdd ifanc y cyfle i gystadlu ar
gyfer cadair a choron yr ŵyl, a hynny yn y ddwy iaith.
A phrif drefnydd yr achlysur gwefreiddiol hwn oedd neb llai
na'r Athro Dr Parchedig D. Ben Rees, gŵr anghyffredin o
ymroddgar a llafurfawr, deinamo o ddyn a chawr o ysgolhaig
eithriadol o gynhyrchiol os bu un erioed. A'r Dr Rees yntau
oedd yn un o sylfaenwyr mwyaf brwdfrydig Cymdeithas
Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi ac un a fu'n ei chynnal yn
ddiarbed dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Ac mae'r gyfrol
yn cynnwys nifer o gyfraniadau amrywiol yn y Gymraeg a'r
Saesneg fel ei gilydd.
Un o'r cyfraniadau pwysicaf at y casgliad hwn yw ysgrif
gryno gan y Dr Rees ei hun ar gyd-destun hanesyddol
Eisteddfod y Gadair Ddu, 1917. A phrif ffocws y darn hwn
yw'r rhan a chwaraeodd y Cymry yn hanes ardal Penbedw a'r
cylch a nodir rhai o'r Cymry hynny a fudodd i'r ardal hon
gan gyfrannu'n helaeth at ddatblygiad capeli Cymraeg Penbedw
a chynorthwyo i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 1917 yno, her
nid bychan oherwydd amgylchiadau hynod anodd y Rhyfel Mawr.
Un o ddigwyddiadau mwyaf atyniadol yr ŵyl yn 2017 oedd perl
o ddarlith hollol wefreiddiol gan Yr Athro Peredur Lynch,
Bangor ar y thema 'Hedd Wyn a'r Cof Cyhoeddus'. A
Chymdeithas y Cymrodorion a oedd yn gyfrifol am noddi'r
ddarlith hon. Yna cawn gyfle i ddarllen darlith bellach yn y
Saesneg gan neb llai na'r Dr Huw Edwards, gwyneb hollol
gyfarwydd ar y sgrin fach yn ein hystafelloedd fyw ers
blynyddoedd bellach, sy'n cyflwyno astudiaeth hollol
feistrolgar o swyddogaeth David Lloyd George a gwleidyddion
Rhyddfrydol eraill yn cyflwyno gorfodaeth filwrol ym merw'r
Rhyfel Byd Cyntaf yn ystod 1916 a 1917.
Prif gynnwys gweddill y gyfrol yw'r beirniadaethau ar gyfer
cystadlaethau’r Gadair a'r Goron yn ystod yr ŵyl a thestun y
cerddi a gipiodd y gwobrwyon hyn, pob un o waith beirdd a
llenorion ifanc addawol, hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dyfarnwyd y gadair am gerdd neu gyfres o gerddi ar y testun
'Hedd Wyn', gyda'r Dr Robin Gwyndaf a'r Dr Siôn Aled Owen yn
beirniadu, a Martin Huws yn cipio'r wobr mewn maes arbennig
o gryf.
A difyr odiaeth yw cael y cyfle i ddarllen rhai o'r
llythyron diolch diffuant a ddaeth i law i gydnabod y
trefnwyr ar eu llwyddiant sylweddol yn trefnu'r fath
achlysur a'r nodyn o ddiolch twymgalon gan y Dr D. Ben Rees.
Yn goron ar y cyfan yw'r wledd o ffotograffau lliw hyfryd a
dynnwyd yn ystod y dathliadau ym Mhenbedw yn ystod mis Medi
2017. I gloi rhaid llongyfarch Gwasg y Lolfa ar droi allan
cyfrol fach hynod o hylaw a deniadol sydd yn wledd i'r
llygad a'r meddwl. Da iawn chwi oll yn wir.
J. Graham Jones
|
Edrychwch ar wefan
Cyhoeddiadau Modern Cymreig
am y cyhoeddiadau diweddaraf
|